Archbishop’s Address to the Governing Body September 2026

Anerchiad yr Archesgob i’r Corff Llywodraethol

Sgroliwch i lawr am yr Saesneg | Scroll down for the English
Yr hyn a ganlyn yw testun llawn anerchiad yr Archesgob:

Hoffwn fynd â chi yn ôl 2,000 o flynyddoedd i ddechreuadau’r Eglwys Gristnogol a’ch gwahodd i ddychmygu eich hun yn yr olygfa rwyf am ei disgrifio. Rwy’n gwybod bod hyn yn haws i’w wneud i rai nag eraill, ond wrth i mi ddarllen, ceisiwch roi eich hun yn y stori a dychmygu sut beth yw bod yno.

‘Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau. Daeth ofn ar bob enaid; yr oedd rhyfeddodau ac arwyddion lawer yn cael eu gwneud drwy’r apostolion. Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin. Byddent yn gwerthu eu heiddo a’u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un. A chan ddyfalbarhau beunydd yn unfryd yn y deml, a thorri bara yn eu tai, yr oeddent yn cyd-fwyta mewn llawenydd a symledd calon, dan foli Duw a chael ewyllys da’r holl bobl. Ac yr oedd yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub.’ (Actau 2: 42-diwedd)

Bydd y darn hwn o ddiwedd pennod 2 Actau’r Apostolion yn sicr yn gyfarwydd i chi. Mae’n disgrifio rhai o egwyddorion allweddol disgyblaeth a chymuned, a oedd yn gwbl ganolog i ruddin yr eglwys yn y dyddiau cynharaf hynny. D’wn im amdanoch chi ond pryd bynnag y bydda i’n clywed neu’n darllen y darn hwn, mae’n gryn her i mi. Mae’n disgrifio cymuned o bobl a wnaeth ymroi i weddi a chymdeithas, i ddysgu a thyfu
wrth iddyn nhw ganiatáu eu hunain i gael eu siapio gan ddysgeidiaeth yr apostolion. Dywedir wrthym eu bod ynghyd. Eu bod wedi treulio llawer o amser gyda’i gilydd, yn cyd-fwyta mewn llawenydd a symledd calon. Mae’n disgrifio cymuned fywiog a Duw-ganolog, yn moli Duw yn y deml ac yn torri bara gyda’i gilydd yn eu cartrefi. Cymaint oedd eu synnwyr o undod ac agosatrwydd fel eu bod yn cael eu hysgogi gan ffydd i ddal pob peth yn gyffredin – gan fynd cyn belled â gwerthu eu heiddo a’u nwyddau a rhannu’r elw fel nad oedd neb yn mynd heb ddim. Doedd neb yn parhau mewn angen.
Roedd hon yn ffordd cwbl wahanol a radical o fyw. Ac roedd pobl yn sylwi. Mae’r darn yn dweud wrthym fod pawb wedi rhyfeddu wrth iddyn nhw weld y cyfoethog a’r tlawd yn byw yn gytûn, yn cefnogi ac yn helpu ei gilydd mewn ffordd mor anhunanol a hael, ac roedden nhw’n rhyfeddu at y rhyfeddodau a’r arwyddion a welsant yr apostolion yn eu gwneud.
Dwy bennod yn ddiweddarach, yn dilyn iacháu’r dyn dall wrth gatiau’r deml a rhai areithiau pwerus a wnaed gan Pedr i’r dorf ac i’r awdurdodau crefyddol, cawn ein tywys yn ôl at ddisgrifiad o’r hyn a oedd wrth wraidd y gymuned ryfeddol a newydd hon:
‘Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o’i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin. Â nerth mawr yr oedd yr apostolion yn rhoi eu tystiolaeth am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a gras mawr oedd arnynt oll. Yn wir, nid oedd neb anghenus yn eu plith, oherwydd byddai pawb oedd yn berchenogion tiroedd neu dai yn eu gwerthu, yn dod â’r tâl am y pethau a werthid, ac yn ei roi wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb yn ôl fel y byddai angen pob un.’ (Actau 4:32-35)
Mae dau fileniwm wedi mynd heibio ers hynny ac mae’r eglwys wedi tyfu a lledaenu i bedwar ban byd. Mae arweinwyr wedi gorfod datblygu ffyrdd o gynnal undod, trefn a llywodraethu da ar draws ardaloedd daearyddol enfawr; mewn gwahanol gyd-destunau ac mewn gwahanol wledydd. Maen nhw wedi gorfod gweithio allan sut i gytuno ar yr hyn sy’n wir ac yn ffyddlon i berson a gwaith Iesu Grist ac yna dod o hyd i ffyrdd o ddelio â gwahaniaeth ac anghytundeb, yn ogystal â sgismau a heresïau. Mae’r eglwys yn y rhan fwyaf o achosion wedi datblygu’n sefydliad, gan orfod llywio ei lle mewn byd sy’n bythol newid yng nghanol cymhlethdodau
cynyddol. Ac yn anffodus, ers y dyddiau cynnar hynny a ddisgrifir yn Actau’r Apostolion, mae eglwys Dduw wedi cael ei thorri a’i hollti sawl gwaith. Mae yna bellach ystod eang o enwadau; pob un yn ceisio bod yn ffyddlon i’r efengyl; pob un yn eu gwahanol ffyrdd wedi’u dylanwadu gan eu dealltwriaeth hwy o’r ysgrythur ac o draddodiad, fel y maen nhw’n eu gweld nhw. Bellach, mae tua 45,000 o wahanol enwadau Cristnogol ledled y byd a’r prif ganghennau yw’r Cristnogion Catholig, Anglicanaidd, Protestannaidd neu anghydffurfiol, Uniongred ac Annibynnol. Hyd yn oed o fewn ein henwad ein hunain, Anglicaniaeth, caiff ffydd a bywyd eu mynegi mewn llu o amrywiol ffyrdd.
Allwn ni ddim mynd yn ôl i’r hyn sy’n ymddangos nawr (o leiaf i mi ar adegau) yn ffordd hapus a syml o fyw ein ffydd a’n disgyblaeth; o fod yn gorff Crist; o fod yr eglwys. Ond allwn ni ddim a ddylen ni ddim colli golwg ar egwyddorion y bywyd Cristnogol a nodir yn y straeon cynnar hynny a gofnodwyd yn ein hysgrythurau. Mae’r darnau o’r Actau rydw i wedi’u darllen y bore yma yn disgrifio’r math o fywydau y cafodd y disgyblion cyntaf hynny eu hysgogi i fyw oherwydd eu ffydd yn pwy oedd Iesu a’r hyn yr oedd Iesu wedi’i wneud. Maen nhw’n disgrifio patrwm o fywyd a oedd yn radical o wahanol i’r cymdogaethau cyfagos; mor wahanol fel bod pobl yn sylwi, yn gwneud sylwadau ac yn cael eu syfrdanu. Ac er mewn rhai ffyrdd, bod y ffordd honno o fyw a bod yn swnio’n hynod o syml, mae’n eithriadol o heriol. Efallai ei fod felly iddyn nhw ym Mhalestina yn y ganrif gyntaf hefyd. Ond mae’n sicr i ni, ddwy ganrif yn ddiweddarach.
Rydyn ni, wrth gwrs, yn ceisio ymroi i dyfu, dysgu a gweddïo gyda’n gilydd, i feithrin ein cymdeithas yng Nghrist ac i dorri bara gyda’n gilydd. Ond os ydyn ni’n onest gyda ni’n hunain, mae tensiynau hyd yn oed yn yr elfennau sylfaenol a hanfodol bwysig hyn o’n bywyd gyda’n gilydd. Mae bod yn un yn rhodd. Dyna ein rhodd yng Nghrist. Fel y mae Sant Paul yn atgoffa’r eglwys yn Galatia a oedd eisoes yn cynnwys pobl a grwpiau na fydden nhw fel arfer yn ymwneud â’i gilydd, ‘Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw.’ Mae pob gwahaniaeth dynol wedi’u chwalu, ‘oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu… etifeddion yn ôl yr addewid’ (Gal 3:28, 29)
Ond mae dysgu sut i fyw hynny, darganfod beth mae’n ei olygu i edrych y tu hwnt i ni’n hunain a’n gwahaniaethau a’n hanghytundebau ein hunain i’r un sy’n galw pob un ohonom, yn ein sancteiddio ac yn ein gwaredu, yn llawer anoddach. Ond dyna’r hyn y mae Crist yn ei orchymyn i ni – i ni garu ein gilydd fel y mae ef yn ein caru ni ac i ddod o hyd i’n hundod ynddo, hyd yn oed yn ein holl amrywiaeth. A phan fyddwn ni’n cael cipolwg ar yr undod hwnnw ac y gallwn ddechrau llawenhau yn yr undod hwnnw, yna mae’n rhodd nid yn unig i ni ond i’r byd ac ar gyfer y byd.
Roedd pawb a gredai gyda’i gilydd, ac roedd ganddyn nhw bopeth yn gyffredin. Unwaith eto, rhywbeth sy’n swnio’n mor syml, ond mewn gwirionedd sy’n anhygoel o heriol. Roeddwn i’n siarad â chwpl o bobl y diwrnod o’r blaen o eglwys yn fy esgobaeth, a oedd yn dweud wrtha i fod pobl yn eu heglwys yn dal i deimlo eu bod yn berchen ar y sedd maen nhw’n eistedd ynddi ac yn cael eu tramgwyddo pan fydd rhywun arall yn dewis eistedd yno. Mae gan eraill eu ffenestr benodol nhw a gwae unrhyw un arall sy’n rhoi blodau ar y sil ffenest honno. Efallai fod hyn yn gwneud i ni chwerthin. Ond mae’r mathau hynny o agweddau yn dal i fod o gwmpas yn ein heglwysi. Mae rhywun yn meddwl tybed beth mae pobl o’r fath yn ei ddeall am eu ffydd yng Nghrist.
Ond dechreuwch chi siarad am arian ac mae’n debyg y gall y rhan fwyaf ohonom ni yn yr ystafell hon ddeall y demtasiwn i fod yn feddiannol ac i ddal gafael yn yr hyn sydd gennym, boed hynny fel unigolion, teuluoedd neu gymunedau eglwysig. Wrth wraidd ein dealltwriaeth o’r Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth a’r Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol mae’r syniad o rannu. Rhannu mewn addoliad trwy ymuno ag eraill yn eu hadeilad eglwysig. Rhannu’r clerigion a’r Gweinidogion Trwyddedig Lleyg, wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd fel timau gweinidogaeth ar draws yr Ardaloedd Gweinidogaeth er budd pawb. Rhannu mewn bywyd cyffredin wedi’n rhwymo gyda’n gilydd, nid yn unig gan ffydd, ond yn gyfreithiol mewn llywodraethiant, a thrwy weledigaeth gyffredin o fyw ein ffydd yn ein cymunedau. A rhannu adnoddau – unwaith eto, nid amser a thalentau pobl yn unig, nid dim ond y tebotau a’r tegellau, ond yr arian. Y bwriad, yn sicr yn adroddiad Harris, yw i’r arian ar draws yr eglwysi gael ei gyfuno a’i ddosbarthu mewn ffordd sy’n cefnogi holl eglwysi’r Ardal Weinidogaeth.
Fel y gwyddom, o blentyndod, caiff pob math o reddf ddynol naturiol ei sbarduno wrth i ni rannu a dysgu rhannu. Rhan o’n taith i ddisgyblaeth Gristnogol yw darganfod beth mae’n ei olygu i fod yn agored ac yn hael yn hytrach nag amddiffynnol a hunan-amddiffynnol. Beth sy’n deg? Beth sy’n gyfiawn? Sut allwn ni ddysgu gadael i bethau fynd a pheidio â rhoi gormod o bwys ar ein heiddo a’n nwyddau fel y gallwn ddod o hyd i’r rhyddid yng Nghrist i rannu’r hyn sydd gennym ni? Oherwydd mae ein ffydd yn ein dysgu bod yr hyn sydd gennym yn rhodd, nid yn rhywbeth i’w berchen na dal gafael ynddo, ond rhywbeth i’w rannu a’i ddefnyddio i hyrwyddo gwaith y deyrnas.
Rydyn ni, fel yr Eglwys yng Nghymru, yn sefydliad, ac mae’n anodd dychmygu sut arall y gallen ni drefnu a llywodraethu ein hunain fel talaith; sydd wedi’i gwneud, fel yr ydyn ni, o eglwysi lleol, Ardaloedd Gweinidogaeth ac esgobaethau. Mae’r sefydliad yn darparu fframwaith hanfodol i’n dal ni i gyd gyda’n gilydd fel teulu taleithiol. Ond nid busnes ydyn ni. Mae’n rhaid i ni fod yn fusnes, wrth gwrs, ac rydyn ni wedi elwa’n aruthrol ar ddoethineb ac arferion busnesau a sefydliadau seciwlar, yn enwedig dros y 30 mlynedd diwethaf neu fwy. Rydyn ni wedi gallu dilyn arferion gorau mewn pethau fel diogelu, adnoddau dynol a chyfathrebu ac rydyn ni’n parhau i ddysgu sut i dyfu a datblygu i fod y gorau y gallwn ni fod fel y gall yr Eglwys yng Nghymru ffynnu ledled ein gwlad. Ond yn y bôn, nid busnes ydyn ni.
Dydyn ni ddim yn gangen o’r Gwasanaethau Cymdeithasol chwaith. Rydyn ni’n cael ein galw i wasanaethu ac i ofalu, wrth gwrs. Mae’r alwad i ymateb i anghenion dynol trwy wasanaeth cariadus wedi’i ymwreiddio ym mhum nod cenhadaeth y Cymundeb Anglicanaidd. Mae banciau bwyd, boreau coffi, clybiau cinio a chanolfannau clyd i gyd yn ffyrdd pwysig o fyw cariad Duw yn ein cymunedau. Mae gweithio yn ein hysgolion, ein cartrefi gofal a phreswyl, gweithio mewn partneriaeth â’n harweinwyr dinesig a gwleidyddol, ymuno â sefydliadau eraill i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau, i gyd yn rhan o’n bywyd fel dilynwyr Iesu.

Ond wnaeth Iesu ddim o’n comisiynu ni i fynd allan a datrys holl broblemau’r byd. Fe’n comisiynodd ni i fynd i wneud disgyblion; i rannu a byw newyddion da Iesu yn y fath fodd fel bod eraill yn cael eu denu ato ac yn dod i adnabod ei gariad achubol drostyn nhw eu hunain. Ydy, mae
ein gwaith allan yn y cymunedau yn bwysig. Ond ein prif dasg – ein tasg bwysicaf – yw rhannu newyddion da Iesu Grist. Oherwydd mae adnabod Iesu yn newid bywyd. Dyna sy’n trawsnewid bywydau pobl; fel rydyn ni wedi’i ddarganfod ac yn parhau i’w ddarganfod wrth i ni deithio gyda’n gilydd mewn ffydd. A dyna’r rhodd, y trysor sydd gennym ni i’w gynnig i’r byd wrth i Dduw ein defnyddio i ddisgleirio gyda goleuni ei gariad.

ydyn ni’n gwneud hyn yn ôl y ffordd rydyn ni’n byw. Gallwn ni siarad am Iesu, pregethu am Iesu, addysgu am Iesu gymaint ag y dymunwn, ond os nad yw ein bywyd gyda’n gilydd yn adlewyrchu’r trawsnewidiad radical hwnnw, yna mae’r cyfan mewn perygl o swnio’n eithaf gwag, fel yr efydd swnllyd a’r symbal aflafar y mae Paul yn sôn amdanyn nhw yn ei dystiolaeth wych at gariad ym mhennod 13 o’i lythyr cyntaf at yr eglwys yng Nghorinth.

Rydyn ni i fod yn halen, yn oleuni ac yn furum, gan wneud gwahaniaeth yn y cymunedau y mae Duw wedi ein gosod ynddyn nhw, gan fyw mewn ffordd sy’n unigryw ac yn rhyfeddol, gan fod yn gorff Crist sy’n dangos cefnogaeth y naill at y llall a rhyng-ddibyniaeth.
Ymhlith y papurau niferus sy’n dod trwy fy nrws bob penwythnos y mae’r Tablet; cylchgrawn rhyngwladol yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Mae erthygl yn un o rifynnau mis Awst y cylchgrawn hwnnw yn rhoi disgrifiad pwerus iawn o beth yw burum a’r hyn y mae’n ei wneud ac felly pa effaith y mae’r eglwys yn cael ei chael yn y byd. Cyd-destun yr erthygl oedd yr eglwys ym Mhalesteina/Israel, a dyna pam yr oedd mor drawiadol, ac roedd yr awdur yn offeiriad Jeswit; mab Iddewon Almaenig ac a anwyd yn Ne Affrica. Mae’n cyferbynnu’r delweddau o goncwest a burum wrth fyfyrio ar alwedigaeth y Cristion. Mae concwest yn sôn am bŵer, rheolaeth a buddugoliaeth dros yr hyn a welwn fel grymoedd gwrthwynebol. Fodd bynnag, mae burum yn awgrymu trawsnewid trwy integreiddio yn hytrach na dominyddu. Yn ôl yr awdur, mae bod yn furum yn rhaglen weithredu. Mae’n golygu gwrthsefyll y demtasiwn i aros yn ddiogel: i hunansyllu, i wahanu ein hunain oddi wrth eraill fel ymateb i ofn a chreu cynghreiriau yn y gobaith o orchfygu. Yn hytrach, mae’n golygu ildio’r hunan a hunan-ddiddordeb fel y gall bywyd yr Iesu atgyfodedig ddisgleirio trwyddom ni a newid y byd.

Halen y ddaear. Goleuni’r byd. Burum yn y cymunedau rydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw. Yma i wneud gwahaniaeth, yn union oherwydd sut rydyn ni’n byw gyda’n gilydd fel Cristnogion.
Yn ystod y dyddiau nesaf, mae gennym ni gyfle i fyfyrio’n fwy ymarferol ar yr hyn y mae hyn yn ei olygu mewn perthynas â nifer o faterion arwyddocaol sydd ar ein hagenda.
Mewn perthynas â’r dde eithafol a sut rydyn ni’n ymateb yn dda i’r rhai a fyddai’n ceisio dehongli ein ffydd mewn ffordd sy’n difrïo ac yn allgáu eraill. (Eitem 14)

Mewn perthynas ag addysg a’n gwaith mewn ysgolion; gan sicrhau bod ein plant yn deall natur radical ein ffydd a’r gwahaniaeth y gall adnabod Crist ei wneud i unigolion a chymunedau. (Eitem 7)
Mae ein trafodaeth ar bapur Corff y Cynrychiolwyr yn gyfle gwych i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddal gafael ar y gwerthoedd hynny a ddisgrifir yn y darnau o’r Actau oherwydd, gyda’n gilydd, rydyn ni’n ceisio dirnad sut orau i stiwardio’r adnoddau a roddwyd gan Dduw sydd gennym i gefnogi gwaith yr eglwys. Gwerthoedd cydweithio, rhannu a chefnogaeth er budd pawb. (Eitem 9)
Yn yr un modd, bydd y cyfraniad at waith USPG yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y gwerthoedd hynny wrth gofleidio a chefnogi’r cymunedau tlotaf sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf, nid yn unig yng Nghymru a’r DU, ond ledled y byd. Rydyn ni’n un gyda nhw, yn blant i’r un tad nefol, dim llai nag yr ydyn ni’n un â’n gilydd, yma yn yr ystafell hon. (Eitem 8)
Bydd ein gwaith yfory ar y siarter urddas a’r pecyn hyfforddi cysylltiedig yn ein galluogi ac yn ein harfogi ni i gyd, ar bob lefel o fywyd ein heglwys, i drin ein gilydd â pharch ac i fyw yn fwy effeithiol y ffordd o fyw radical yr ydyn ni’n darllen amdani yn Actau’r Apostolion. (Eitem 13)


A bydd y sesiwn ar y rhwydwaith Arloesi ac Efengylu yn mynd â ni’n ôl i galon pwy ydyn ni a’r hyn rydyn ni’n cael ein galw i’w wneud. (Eitem 15)
Yn y cyfan, gadewch i’r darnau hynny o’r Actau fod yn dempled, yn safon, yn batrwm ac yn uchelgais i ni.
‘Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o’i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.’
Boed i Dduw fendithio ein hamser gyda’n gilydd a thanio ynom yr awydd i fyw fel un, er mwyn yr eglwys a’r byd yr ydyn ni’n cael ein galw i’w wasanaethu.

Y Parchedichaf Cherry Vann, Archesgob Cymru

What follows is the full text of the Archbishop’s address:

I want to take you back 2,000 years to the very beginnings of the Christian Church and invite you to imagine yourself in the scene that I’m about to describe. I know some people find this easier to do than others, but as I read, try and place yourself in the story and imagine what it’s like to be there.

‘They devoted themselves to the apostles’ teaching and fellowship, to the breaking of bread and the prayers. Awe came upon everyone, because many wonders and signs were being done by the apostles. All who believed were together and had all things in common; they would sell their possessions and goods and distribute the proceeds to all as any had need. Day by day, as they spent much time together in the temple, they broke bread at home and ate their food with glad and generous hearts, praising God and having the goodwill of all the people, And day by day the Lord added to their number those who were being saved.’ (Acts 2: 42-end)

You’ll no doubt recognise that very familiar passage as coming from the end of chapter 2 of the Acts of the Apostles. It describes some key principles of discipleship and community that lay at the heart of the church’s life and being in those earliest of days. I don’t know about you but whenever I hear or read that passage, I find it immensely challenging. It describes a community of people who devoted themselves to prayer and fellowship, learning and growing as they

allowed themselves to be shaped by the apostles’ teaching. We’re told that they were together. That they spent much time together and they ate together with glad and generous hearts. It describes a vibrant and God-centred community, praising God in the temple and breaking bread together in their homes. Such was their sense of oneness and togetherness that they were moved by faith to hold all things in common- going as far as to sell their possessions and their goods and sharing the proceeds so that no-one went without. No-one remained in need.

This was and is a radically different way of living. And people noticed. The passage tells us that awe came upon everyone as they saw rich and poor living in community together, supporting and helping one another in such a selfless and generous way, and they marvelled at the wonders and signs that they saw the apostles doing.

Two chapters later, following the healing of the blind man at the gates of the temple and some powerful speeches made by Peter to the crowd and to the religious authorities, we’re taken back to a description of what lay at the heart of this extraordinary and newly-formed community:

‘Now the whole group of those who believed were of one heart and soul (not mind, note, but soul) and no one claimed private ownership of any possessions, but everything they owned was held in common. With great power the apostles gave their testimony to the resurrection of the Lord Jesus and great grace was upon them all. There was not a needy person among them, for as many as owned lands or houses sold them and brought the proceeds of what was sold. They laid it at the apostles’ feet and it was distributed to each as any had need.’ (Acts 4:32-35)

Two millennia have passed since then and the church has grown and spread across the entire planet. Leaders have had to develop ways of maintaining unity, order and good governance across huge geographical areas; in different contexts and in different countries. They’ve had to work out how to agree on what is true and faithful to the person and work of Jesus Christ and then find ways of dealing with difference and disagreements, as well as with schisms and heresies. The church has in a vast majority of cases become an institution, having to navigate its place in an ever-changing world amidst ever-increasing complexities. And sadly, since those early days described in the Acts of the Apostles,

the church of God has fractured and split many times. There is now a vast array of denominations; each seeking to be faithful to the gospel; each in their different ways shaped by their understanding of scripture and tradition, as they see it. There are now roughly 45,000 different Christian denominations across the world with the main branches being Roman Catholic, Anglican, Protestant or non-Conformist, Orthodox and Independent. Even within our own denomination of Anglicanism there’s an enormous breadth of different expressions of faith and life.

We can’t go back to what seems now (at least to me at times) a blissfully simple way of living out our faith and discipleship; of being the body of Christ; of being the church. But we cannot and must not lose sight of the principles of Christian living set out in those early stories recorded in our scriptures. The passages from Acts that I’ve read out this morning describe the kind of lives those first disciples were motivated to live because of their faith in who Jesus was and what Jesus had done. They describe a pattern of life that was radically different to the surrounding neighbourhoods; so different that people noticed, commented and were awestruck. And although in some ways, that way of living and being sound very simple and straightforward, it is extraordinarily challenging. Perhaps it was to them in 1st century Palestine. But it certainly is to us, two centuries on.

We do, of course, seek to devote ourselves to growing, learning and praying together, to fostering our fellowship in Christ and to sharing in the breaking of bread. But if we’re honest with ourselves, there are tensions even in these basic and fundamentally important elements of our life together. Being one is a given. That’s our gift in Christ. As St Paul reminds the church in Galatia that was already made up of peoples and groups who wouldn’t normally associate with one another, ‘There is no longer Jew or Greek, slave or free, there is no longer male and female’. All human distinctions have been broken down, ‘for all of you are one in Christ Jesus…heirs according to the promise.’ (Gal 3:28, 29)

But learning how to live that out, discovering what it means to look beyond ourselves and our own differences and disagreements to the one who calls each one of us, sanctifies and redeems us, is much harder. But that is what Christ commands us – to love one another as he loves us and to find our unity in him, even in all our diversity. And when

we catch a glimpse of that unity and can start to rejoice in that unity, then it’s a gift not just to us but to and for the world.

All who believed were together, and had all things in common. Again, something that sounds so simple, but is in fact incredibly challenging. I was talking to a couple of people the other day from a church in my diocese who were telling me that it is still the case that people in their church have a sense of ownership of the pew they sit in and are offended when someone else chooses to sit there. Others have their window and woe betide anyone else who puts flowers on the sill. We might laugh. But those kinds of attitudes are still around in our churches. One wonders what such people understand their faith in Christ to mean.

But start talking about money and probably most of us in this room can understand the temptation to be possessive and to hold on to what we’ve got, be that as individuals, families or church communities. At the heart of our understanding of Ministry/Mission Areas and LMAs is the idea of sharing. Sharing in worship by joining together with others in their church building. Sharing the clergy and LLMs, as they work together as ministry teams across the Ministry Areas for the benefit of all. Sharing in a common life as they are bound together, not just by faith, but legally in governance and through a shared vision of living out their faith in their communities. And sharing resources – again, not just people’s time and talents, not just the teapots and the kettles, but the money. The intention, certainly in the Harris report, is for the money across the churches to be pooled and distributed in a way that supports all the churches of MA.

As we know, right from childhood, all kinds of natural human instincts are triggered when it comes to sharing and learning to share. It’s part of our journey into Christian discipleship to discover what it means to become open and generous rather than defensive and self-protective. What is fair? What is equitable? How can we learn to let go and sit lightly to our possessions and our goods so we can find the freedom in Christ to share what we have? Because our faith teaches us that what we have is a gift, not to be owned or grasped, but to be shared and used to further the work of the kingdom.

We are, as the Church in Wales, an institution, and it’s difficult to imagine how else we could order and govern ourselves as a province; made up

as we are of local churches, MAs and dioceses. The institution provides a vital framework to hold us all together as a provincial family. But we are not a business. We have to be business-like, of course, and we’ve benefitted enormously from the wisdom and practice of secular businesses and organisations, particularly over the last 30 years or more. We’ve been able to follow best practice in things like safe-guarding, HR and communications and we continue to learn how to grow and develop into the best we can be so that the Church in Wales can flourish across this land. But essentially, we are not a business.

Neither are we a branch of Social Services. We’re called to serve and to care, of course. Embedded in the Anglican Communion’s five marks of mission is the call to respond to human need by loving service. Foodbanks, coffee mornings, luncheon clubs and warm hubs are all important ways of living out the love of God in our communities. Work in our schools, our care and residential homes, partnering with our civic and political leaders, joining with other organisations to make a positive difference in our communities, all make up the warp and weft of our life as followers of Jesus.

But Jesus didn’t commission us to go out and solve all the world’s problems. He commissioned us to go and make disciples; to share and live out the good news of Jesus in such a way that others are drawn to him and come to know his saving love for themselves. Yes, our work out there in the communities is important. But our primary task – our primary task – is to share the good news of Jesus Christ. Because knowing Jesus is life-changing. That’s what transforms people’s lives; as we have discovered and continue to discover as we journey together in faith. And that is the gift, the treasure we have to offer the world as God uses us to shine with the light of his love.

We do this by the way we live. We can talk about Jesus, preach about Jesus, teach about Jesus all we like, but if our life together doesn’t reflect that radical transformation then it all risks sounding pretty hollow, like the noisy gong and clanging cymbal Paul speaks of in his wonderful testimony to love in chapter 13 of his first letter to the church in Corinth.

We are to be salt, light and leaven, making a difference in the communities in which God has placed us, living in a way that is

distinctive and remarkable, being the body of Christ that demonstrates mutual support and interdependence.

Amongst the many papers that come through my door every weekend is the Tablet; the Roman Catholic international magazine. An article in one of the August editions of that magazine describes very powerfully what leaven is and does and therefore what effect the church is called to have in the world. The context of the article was the church in Palestine/Israel, which was why it was particularly striking. and the author was a Jesuit priest; son of German Jews and born in South Africa. He contrasts the images of conquest and leaven in reflecting on Christian vocation. Conquest speaks of power, control and victory over what we see as opposing forces. Leaven, however, suggests transformation through integration rather than domination. Being leaven, the author suggests, is a programme of action. It means resisting the temptation to stay safe: looking inward, separating ourselves from others as a reaction to fear and building alliances in the hope of being victorious. Rather, it means dying to self and self-interest so that the risen life of the resurrected Jesus can shine through us and change the world.

Salt of the earth. Light of the world. Leaven in the communities in which we live and work. Here to make a difference, precisely because of how we live together as Christians.

In the next few days, we have the opportunity to reflect more practically on what this means in relation to a number of significant matters that are on our agenda.

In relation to the far right and how we respond well to those who would seek to interpret our faith in way that demonises and excludes others. (Item 14)

In relation to education and our work in schools; ensuring that our children understand the radical nature of our faith and the difference knowing Christ can make to individuals and communities. (Item 7)

Our discussion on the RB paper gives us a wonderful opportunity to find ways of holding on to those values described in the passages of Acts as together we seek to discern how best to steward the God-given

resources we have to support the work of the church. The values of togetherness, sharing and mutual support. (Item 9)

Similarly, the contribution on the work of the USPG will remind us of the importance of those values in embracing and supporting the poorest and most threatened communities, not just in Wales and the UK, but across the world. We are one with them, children of the same heavenly father, no less than we are one with each other, here in this room. (Item 8)

Our work tomorrow on the dignity charter and the accompanying training package will enable and equip us all, at every level of our church’s life to treat one another with proper respect and to live out more effectively that radical lifestyle we read about in the Acts of the Apostles. (Item 13)

And the session on the Pioneer and Evangelism network will take us right back and explicitly into the heart of who we are and what we are called to do. (Item 15)

In it all, let those passages from Acts be for us a template, a standard, a pattern and an aspiration.

‘Now the whole group of those who believed were of one heart and soul, and no one claimed private ownership of any possessions but everything they owned was held in common.’

May God bless our time together and kindle in us the desire to live as one, for the sake of the church and the world we are called to serve.

The Most Reverend Cherry Vann, Archbishop of Wales

Leave a Reply

Discover more from caruconwy.com

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading